CAW216 Mudiad Addysg Grefyddol Cymru

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Mudiad Addysg Grefyddol Cymru

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Ydw

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Mae egwyddorion sylfaenol y Bil yn cynnig diwygiad hir-ddisgwyliedig i’r cwricwlwm yng Nghymru. Mae’r pedwar diben sydd wedi’u henwi am addysg yn darparu cynsail gref ar gyfer addysgu a dysgu. Bydd trefnu’r cwricwlwm yn chwe maes dysgu a phrofiad, yn hytrach nag yn ôl y pynciau hanesyddol, yn darparu rhaglenni dysgu mwy cydlynol ac integredig. Gallai enwi dim ond tri sgìl trawsgwricwlaidd fod yn gyfyngol. Er hynny, mae’n gywir i ddisgwyl bod eu cyflwyno a’u meithrin yn trwytho’r holl broses o ddysgu. Serch hynny, testun pryder ydy’r ffordd y mae’r Bil yn delio â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Mae crefydd yn ffenomen anochel sydd wedi, ac yn dal i, chwarae rhan arwyddocaol wrth lunio’r byd sydd ohoni. Hyd yn oed os nad yw rhywun yn grefyddol, mae deall a gwerthuso persbectifau o’r fath ar y byd yn hanfodol i ddatblygiad personol a chymdeithasol pob unigolyn.

 

Mae gwerthoedd a moeseg yn gweithredu’n wahanol. Mae pob agwedd ar brofiad dynol wedi’i liwio gan fframwaith gwerthoedd a moeseg yr unigolyn. Gallai’r rheiny fod yn grefyddol ond, yn fwy-fwy, maen nhw’n tueddu bod yn anghrefyddol. Mae trydydd diben y cwricwlwm yn awgrymu’n gywir y dylai ystyru gwerthoedd a moeseg drwytho’r cwricwlwm cyfan. Er mwyn gweithredu’n effeithiol yn y cymdeithas, mae’n rhaid i bobl ifanc ddatblygu eu fframweithiau eu hunain a deall ei bod yn bosibl nad yw pobl eraill yn rhannu’r un gwerthoedd a moeseg.

 

Mae’r cyfnod ers Deddf Diwygio Addysg 1988 wedi gweld gwelliant sylweddol yn y graddau y mae addysg grefyddol yng Nghymru’n hyrwyddo’r briodol ac yn arwyddocaol "datblygiad ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol disgyblion a chymdeithas". Gwaetha’r modd, mae’n ymddangos nad yw’r ddogfen ymgynghori Cwricwlwm i Gymru: Crefydd, gwerthoedd a moeseg yn cydnabod y gwirionedd hwn. Wrth gyfeirio at y Confensiwn Ewropeiaidd ar Hawlio Dynol, mae’r ddogfen ymgynghori hon yn rhoi coel ar y camsyniad poblogaidd bod addysg grefyddol gwricwlaidd yn gyfystyr â hyfforddiant (neu egwyddori) crefyddol.

 

Wrth ddadansoddi meysydd cytûn cyfredol Cymru, gellir gweld eu bod eisoes yn mynnu bod y pwnc yn cysylltu ag ystyriaethau moesegol ac athronyddol ehangach. Mae’r meysydd llafur hyn yn trafod credoau crefyddol fel ffenomena i’w harchwilio mewn modd agored a phlwraliaethol.

 

Mae’r Bil yn cynnig cwricwlwm sy’n ddyniaethol yn y bôn. Mae’n hollol gyson â’r weledigaeth addysgiadol hon bod dysgwyr yn cael y cyfle i fynd i’r afael â dealltwriaethau crefyddol o’r byd a phrofiadau dynol. Byddai cwricwlwm plwraliaethol go iawn yn amddiffyn hawliau dysgwyr i ystyried persbectifau crefyddol, yn o gystal ag anghrefyddol) ar fywyd. Mae ‘na le i grefydd, gwerthoedd a moeseg yng nghwricwlwm yr ysgol. Fodd bynnag, dylai gwerthoedd a moeseg dreiddio pob un o’r chwe maes dysgu a phrofiad mewn ffordd na all crefydd. Mae ystyried crefydd yng nghyd-destun ehangach gwerthoedd a moeseg yn fenter resymol sydd eisoes wedi’i hymgorffori ym meysydd cytûn Cymru. Byddai dodi ‘crefydd, gwerthoedd a moeseg’ fel endid newydd yn lle addysg grefyddol yn wrthgynhyrchiol wrth chwilio am gwricwlwm plwraliaethol go iawn am y byddai’n arwain at leihad pellach yn y cynnwys isel sydd, ar hyn o bryd, ar gael i’r rhan fwyaf o ddisgyblion yng Nghymru.

 

Gwaetha’r modd, mae addysg grefyddol wedi dioddef, yn arbennig mewn ysgolion uwchradd, ers Deddf Diwygio Addysg 1988 a dyfodiad y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Er bod y pwnc wedi parhau’n statudol o fewn y cwricwlwm seiliol, mae addysg grefyddol wedi’i wasgu tua’r ymylon, wrth i ysgolion ffocysu ar bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’u proffîl uwch.

 

Ar yr un pryd, mae adnoddau sylweddol wedi’u rhoi’n genedlaethol i gynnal gwelliannau yn addysgu a dysgu pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Nid yw hyn wedi digwydd i’r un graddau i addysg grefyddol, sy’n cael ei phenderfynnu’n lleol. Ym mhob awdurdod lleol, mae Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a Chynhadledd Maes Llafur Cytûn wedi bod yn gyfrifol am y pwnc. Yn ystod cyfnod o bwysau sylweddol ar gyllido addysg, nid oes dim arian ychwanegol canolog wedi neilltuo i’r awdurdodau hyn wneud y gwaith angenrheidiol o ddatlygu’r cwricwlwm a chefnogi’r athrawon sy’n ei gyflwyno.

 

Mae’r Bil yn gwneud newidiadau di-angen i Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a Chynhadleddau Meysydd Llafur Cytûn. Nid grwpiau lobïo sy’n hybu crefydd yn y cwricwlwm ydyn nhw. Dim ond un grŵp ymysg y tri sy’n gwneud y cyngor ymgynghorol a’r gynhadledd ydy’r cynrychiolwyr crefyddol. Mae’r ddau arall yn rhoi cynrychiolaeth i’r proffesiwn addysg (trwy’r undebau) a’r cymuned ehangach (trwy’r awdurdod lleol). Mae hyn yn sicrhau cydbwysedd addas o ddiddordebau, crefyddol ac anghrefyddol, tra’n trafod crefydd yn y cwricwlwm. Mae’r cyfrifoldeb am lunio’r maes llafur cytûn, fel arfer, yn cael ei ddirprwyo i ymarferwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon ac ymgynghorwyr addysgiadol. Maen nhw’n ymgynghori o fewn yr awdurdod lleol ac yn bellach. Mae’r Gynhadledd Maes Llafur Cytûn yn craffu ar y drafftiau, yn eu gwella os oes angen, ac yn eu mabwysiadu yn y pen draw. Mae’r newid arfaethedig i enwau’r cyrff hyn yn ddiangen ac anaddas. Mae’r trefniadau deddfwriaethol cyfredol yn ateb y gofyn.

 

Byddai gwneud y cynghorau ymgynghorol a’r cynhadleddau’n gyfrifol am gwerthoedd a moeseg (a ddylai gael eu trin ar draws y cwricwlwm) yn ogystal â chrefydd yn afresymol.  Yn wir, gallai atgyfnerthu’n ddi-fudd y farn y dylid gwerthoedd a moeseg eu cyfyngu i faes y dyniaethau yn y cwricwlwm.

 

Mae Atodlen 1 y Bil yn cynnig geiriau sy’n awgrymu newid statws i’r maes llafur cytûn o ran cwricwlwm yr ysgol.  Bydd rhaid i addysgu a dysgu gael eu cynllunio “gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig” yn hytrach nag “yn unol ag ef”.  Mae’n bosibl bod hyn, hefyd, wedi’i awgrymu gan gamsyniad arall am natur meysydd llafur cytûn yng Nghymru.  Datganodd y ddogfen ymgynghori ar y cynigion deddfwriaethol ar gyfer crefydd, gwerthoedd a moeseg, “Mae’r newid hwn yn rhoi rhywfaint o ddisgresiwn i ysgolion wyro oddi ar y Maes Llafur Cytunedig.”  I raddau helaeth, nid yw’r meysydd llafur hyn yn pennu cynnwys.  Egluro natur addysg grefyddol briodol ar gyfer pob cyfnod dysgu yw eu pwrpas.  Wrth wneud hyn, yn aml, maen nhw’n darparu cynnwys enghreifftiol i gynhorthwyo athrawon wrth iddynt gynllunio’r cwricwlwm.  Mewn gwirionedd, mae ychydig iawn o’r ysgolion yng Nghymru heb nodweddion crefyddol, yn arbennig yn y sector uwchradd, yn neilltuo digon o amser yn y cwricwlwm i gyflwyno gofynion y meysydd llafur cytûn cyfredol.

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae'n amlwg bod rhaid i rywbeth gael ei wneud er mwyn gwella'r ddeddfwriaeth sy'n weithredol ar hyn o bryd.

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae 'na oblygiadau ariannol ac o ran adnoddau.

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Gweler sylwadau dan 1.2 uchod.

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae angen mwy o adnoddau ar Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol a Chynhadleddau Meysydd Llafur Cytunedig na sydd ar gael ar hyn o bryd.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Nac oes.

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

Yn fwriadol, mae ein cyflwyniad wedi’i gyfyngu i faterion sy’n ymwneud ag addysg grefyddol.

Byddai’r trefniadau ar gyfer ysgolion â nodweddion crefyddol yn dwyn pwysau afresymol ar eu cwricwlwm.